Link to Alfred Place Baptist Church, Aberystwyth

BETH YW EGLWYS EFENGYLAIDD ABERYSTWYTH?



EGLWYS
Er bod y gair "eglwys" yn aml yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adeilad arbennig, mewn gwirionedd mae'r gair yn cyfeirio at grŵp o bobl. Yn y Testament Newydd mae'n cael ei ddefnyddio i sôn am bobl sy'n dod at ei gilydd am eu bod yn credu yn lesu Grist fel Gwaredwr ac Arglwydd.

EFENGYLAIDD
Ystyr "efengyl" yw "newyddion da". Pobl y "newyddion da" am lesu Grist, felly, yw pobl "efengylaidd" - pobl sy'n credu bod maddeuant pechodau, perthynas real â Duw, bywyd tragwyddol, ystyr newydd i fywyd, a llu o fendithion eraill i'w cael yn lesu Grist.

ABERYSTWYTH
Rydym yn falch o gydnabod ein perthynas â Christnogion eraill ledled Cymru a thrwy'r byd. Ond ein dymuniad yw addoli a gwasanaethu'r Arglwydd lesu Grist yma yn Aberystwyth a'r ardaloedd oddi amgylch, a hynny drwy'r Gymraeg.

MAE CROESO MAWR I CHI YMUNO Â NI!

PRYD MAE'R OEDFAON?
10 a.m. a 6 p.m. bob Sul
Ceir Ysgol Sul am 11.30 i blant, pobl ifainc, ac oedolion.
Cynhelir cwrdd mwy anffurfiol ganol wythnos mewn gwahanol gartrefi.
Mae'r cyfarfodydd hyn i gyd yn agored i bwy bynnag sy'n dymuno dod.

BLE MAE'R OEDFAON?

Mae'r Eglwys yn cyfarfod ar y Sul yn Saron,
Llanbadarn Fawr (drwy ganiatâd caredig) - rhwng y sgwâr a'r rheilffordd.

map

YDYCH CHI AM WYBOD RHAGOR ?
Byddem yn falch iawn o'ch gweld yn y cyfarfodydd ar y Sul. Fe gewch groeso cynnes Cymraeg yn ein plith.

Petaech chi'n dymuno cael sgwrs am yr Eglwys neu'r ffydd Gristnogol, neu petaech chi am drafod unrhyw broblem, mae pob croeso i chi gael gair â gweinidog yr Eglwys, sef
Ifan Mason Davies lfan Mason Davies
Rhiwfelen
Goginan
Aberystwyth
SY23 3PF

Ffôn 01970 880869

Medd lesu Grist, "Deuwch ataf fi bawb sydd yn flinderog ac yn llwythog, a mi a esmwythâf arnoch" (Mathew 11.28).


Beibl 1620 Digitisation of the Welsh Bible in progress - in one version it is bilingual, excellent!
Testament Newydd New Testament online.
Llyfrgell Owen This e-text library includes some William Williams hymns for you to download.
Link to Alfred Place Baptist Church, Aberystwyth

Page Design date: 20 May 2003 Site editor: Michael Keen
This page
Alfredplace.org.uk/ap/efengyl.htm

Disclaimer: Any opinions which are expressed by this information are those of the author(s) of this page and do not in any way constitute views held by the internet service provider.